- Cyfrol gynhwysfawr ar holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul.
- Llwyddir i egluro a chrynhoi barnau cyfoes gwahanol ar ddysgeidiaeth Paul.
- Am y tro cyntaf erioed trafodir holl rychwant cyfraniadau dau ysgolhaig Cymreig byd-enwog, C.H.Dodd a W.D.Davies, i astudiaethau Paulaidd.
Cyflwynir yn y gyfrol hon holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul a'i gefndir meddyliol mewn un bennod ar ddeg, ynghyd â swmp y farn ysgolheigaidd ddiweddaraf ar y pwnc. Trafodir perthynas yr Apostol â Iesu; cefndir syniadol Paul; natur ei dröedigaeth a'i alwad apostolaidd, a'i ddealltwriaeth o natur y ddeddf Iddewig; ei syniadaeth am iachawdwriaeth a Pherson Crist; ei ddealltwriaeth o natur y bod dynol a gwaith yr Ysbryd ynddo ac arno; dysgeidiaeth foesegol yr Apostol; ei syniadaeth am yr eglwys; ei farn am eschatoleg a'r 'Pethau Diwethaf'; a thrafodaeth ar gyfraniad y llythyrau yr amheir gan rai mai Paul oedd eu hawdur. Mae'r gyfrol yn unigryw fel yr ymdriniaeth lwyraf eto yn y Gymraeg ar y maes hwn; mae'n amlygu hefyd gyfraniad ysgolheigion o Gymry, yn arbennig C. H. Dodd a W. D. Davies, dau ysgolhaig Cymreig byd-eang eu dylanwad, i astudiaethau Paulaidd.